Tîm | Team
Stuart D. Berry – Arweinydd Prosiectau Diwylliannol | Cultural Projects Lead
Mae Stuart Berry yn arwain gwaith ymgynghori diwylliannol PLANED, gan arbenigo mewn atyniadau treftadaeth i ymwelwyr ac ymgysylltu ac ymgynghori â’r gymuned.
Mae Stuart yn weithiwr diwylliannol proffesiynol profiadol, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth ledled y DU, gan gynnwys naw mlynedd mewn amgueddfa genedlaethol, a thair blynedd yn rheoli canolfan dreftadaeth annibynnol fach yn ne Sir Benfro.
Mae Stuart hefyd yn ymddiriedolwr Celfyddydau SPAN, yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Bro Gwaun, ac mae’n aelod o bwyllgor grŵp cymorth y sector treftadaeth ddiwylliannol cenedlaethol, y Digital Learning Network.
Mae gan Stuart radd Meistr mewn Astudiaethau Amgueddfa.
Gweler hefyd: https://www.linkedin.com/in/stuartdberry/
Stuart Berry leads PLANED’s cultural consultancy work, specialising in heritage visitor attractions and community engagement and consultation.
Stuart is an experienced cultural professional, with over 20 years’ experience working in museums and heritage settings across the UK, including nine years at a national museum, and three years managing a small independent heritage centre in south Pembrokeshire.
Stuart is also a trustee of SPAN Arts, a school governor at Ysgol Bro Gwaun, and is a committee member for the nationwide cultural heritage sector support group, the Digital Learning Network.
Stuart has a Master’s degree in Museum Studies.
Sophie Jenkins – Swyddog Prosiectau Diwylliannol | Cultural Projects Officer
Sophie Jenkins yw Swyddog Prosiectau Diwylliannol PLANED, yn gweithio’n rhan amser, ac yn arbenigo mewn hwyluso cymunedol dwyieithog.
Mae Sophie yn hwylusydd profiadol o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol. Mae hi’n gyfathrebwr medrus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Ymunodd â PLANED yn 2018 i gyflawni prosiect tair blynedd y Loteri Treftadaeth, a chyn hynny bu’n gweithio ar y People’s Orchard Project yn Llandudoch. Daw â phrofiad o brosiectau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a gwyddor dinasyddion yn ogystal â’i dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth mewn cymunedau Cymraeg traddodiadol.
Mae Sophie hefyd yn gweithio fel Cydlynydd i Ganolfan Llwynihirion Brynberian, lle mae’n cael ei chyflogi i helpu i greu cydlyniant, cydweithio, cyfathrebu a chyfranogiad rhwng cenedlaethau dwyieithog ffyniannus drwy ymgysylltu cymdeithasol yn yr adeilad cymunedol sydd newydd ei adnewyddu.
Gweler hefyd: https://www.linkedin.com/in/sophie-jenkins-865136ab/
Sophie Jenkins is the Cultural Projects Officer at PLANED, working part-time, and specialising in bilingual community facilitation.
Sophie is an experienced facilitator of community activities and events focussed on both cultural and natural heritage. She is a skilled communicator in both Welsh and English.
She joined PLANED in 2018 to deliver a three-year Heritage Lottery project, and previously worked on the People’s Orchard Project in St Dogmaels. She brings experience of environment focused projects, biodiversity awareness and citizen science as well as her understanding of culture and heritage in traditional Welsh speaking communities.
Sophie also works as Coordinator for Canolfan Llwynihirion Brynberian, where she is employed to help create thriving, bilingual intergenerational cohesion, collaboration, communication and participation through social engagement within the newly renovated community building.
See also: https://www.linkedin.com/in/sophie-jenkins-865136ab/