Andanom | About
Mae Echoes yn gartref i waith diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth PLANED gyda chymunedau a phartneriaid ar draws gorllewin Cymru a thu hwnt.
Mae gan gymunedau gwledig draddodiadau a threftadaeth unigryw a gwahanol. Mae ein prosiectau yn ceisio grymuso’r cymunedau hynny, gan rannu eu diwylliant cyfoethog â phawb sy’n awyddus i archwilio haenau o dirwedd, pobl, iaith, diwylliant a thraddodiad.
Mae PLANED wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau i wella ansawdd eu bywyd trwy ganolbwyntio ar eu cyfleoedd, harneisio potensial a’u helpu i gyflawni eu dyheadau.
Prosiectau a ariennir gan grantiau
Mae ein tîm yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd ariannu i weithio gyda chymunedau i gyflawni prosiectau sy’n ystyrlon iddyn nhw. Mae gennym gyswllt rheolaidd, parhaus â grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill yn y sector i’n galluogi i ddeall blaenoriaethau’r bobl yr ydym yn dymuno eu gwasanaethu orau.
Ymgynghoriaeth ddiwylliannol
Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau sydd wedi derbyn cyllid grant i’w helpu i gyflawni eu gwaith. Mae ein tîm yn arbenigo mewn ymgysylltu cymunedol, ymgynghori a hwyluso ac rydym wedi gweithio gyda nifer o gleientiaid yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac Ymddiriedolaeth Castell Picton.
Dechreuodd Echoes of the Past fel prosiect i weithio gyda phum cymuned arfordirol o amgylch Sir Benfro, pob un â threftadaeth falch a chymuned weithgar. Ceisiodd y prosiect hwnnw ddatblygu dull a arweinir gan y gymuned o reoli a dehongli treftadaeth leol mewn ffordd debyg i ‘eco-amgueddfeydd’ Ewrop. Amgueddfeydd ‘heb waliau’ yw’r rhain, sy’n dathlu diwylliant a threftadaeth yn y gymuned, gan gynnwys adeiladau, tirweddau a thraddodiadau.
Echoes is home to PLANED‘s culture, heritage and tourism work with communities and partners across west Wales and beyond.
Rural communities each have unique and distinct traditions and heritage. Our projects seek to empower those communities, sharing their rich culture with all those who are keen to explore layers of landscape, people, language, culture and tradition.
PLANED is committed to supporting communities to improve their quality of life by focusing on their opportunities, harnessing potential and helping them to achieve their aspirations.
Grant-funded projects
Our team are continually seeking funding opportunities to work with communities to deliver projects that are meaningful to them. We have regular, ongoing contact with community groups, voluntary organisations and other sector partners to enable us to best understand the priorities of the people we wish to serve.
Cultural consultancy
We also work with organisations and groups who have received grant funding to help them deliver their work. Our team specialises in community engagement, consultation and facilitation and we have worked with a number of clients in recent years, including National Trust Cymru, Amgueddfa Cymru, Aberystwyth University and Picton Castle Trust.
Echoes of the Past began as a project to work with five coastal communities around Pembrokeshire, each with a proud heritage and an active community. That project sought to develop a community-led approach to the management and interpretation of local heritage in a similar way to the ‘eco-museums’ of Europe. These are museums ‘without walls’, which celebrate culture and heritage in the community, including buildings, landscapes and traditions.